2015 Rhif 1598 (Cy. 197)

Cynllunio Gwlad a Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer system o gynlluniau datblygu lleol (“CDLl”) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2839) (“Rheoliadau 2005”) sydd yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithredu’r system honno.

Mae’r prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn.

Mae rheoliad 2(2)(h)(i) yn mewnosod diffiniad o gofrestr safleoedd ymgeisiol ac mae rheoliad 2(2)(h)(iii) yn mewnosod diffiniad o adroddiad adolygu fel y gellir cynnwys y ddau yn y diffiniad o ddogfennau CDLl (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2(2)(d)). Mae’n ofynnol sicrhau bod y rhain ar gael o dan reoliad 17 a rheoliad 26B (adneuo cynigion).

Mae rheoliad 2(2)(g)(ii) yn diwygio’r diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol” i ychwanegu Network Rail Infrastructure Limited at y rhestr o gyrff y mae’n rhaid ymgynghori â hwy o dan reoliadau 14 a 26A.

Effaith rheoliad 2(3) yw nad oes unrhyw ofyniad i ymgysylltu ag ymgyngoreion wrth baratoi cynllun cynnwys cymunedau nac amserlen pan fo’r dogfennau hynny’n ymwneud ag adolygu CDLl.  

Mae rheoliad 2(5)(c) yn mewnosod gofyniad i’r awdurdod cynllunio lleol (“ACLl”) hysbysu rhai ymgyngoreion cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adolygiad i gytundeb cyflawni gael ei gytuno neu pan y bernir iddo gael ei gytuno.

Mae rheoliad 2(5)(d) yn rhagnodi’r amgylchiadau pan nad oes angen i’r ACLl gydymffurfio â gofynion y cynllun cynnwys cymunedau.

Mae rheoliad 2(7) yn gwneud newidiadau i’r wybodaeth sy’n ofynnol yn isdeitl y CDLl.

Mae rheoliad 2(8) yn ychwanegu unrhyw gynllun morol a baratowyd gan Weinidogion Cymru at y rhestr o faterion y mae’n rhaid i’r ACLl eu hystyried wrth ddarparu CDLl. Mae hyn yn ychwanegol i’r materion a bennwyd eisoes yn adrannau 39 a 62(5) o’r Ddeddf ac yn rheoliad 13. Hepgorir y cyfeiriad at gynlluniau gwastraff rhanbarthol anarferedig yn y rheoliad hwnnw hefyd.

Mae rheoliad 2(9) a 2(22) yn darparu ar gyfer gweithdrefn newydd ffurf fer ar gyfer adolygu CDLl. Rhaid defnyddio’r weithdrefn newydd pan nad yw’r materion dan sylw yn ddigon arwyddocaol i warantu’r weithdrefn lawn sydd hefyd yn gymwys wrth baratoi CDLl cychwynnol neu CDLl yn lle cynllun arall. Mae’r weithdrefn ffurf fer yn y Rhan 4A newydd i Reoliadau 2005. Yn hytrach na gofyn i gyrff statudol gyfranogi cyn-adneuo, y mae gofyniad i’r ACLl hysbysu’r cyrff hynny ynglŷn â phwnc adolygiad arfaethedig a’r adroddiad adolygu sy’n ei ragflaenu ac i wahodd sylwadau ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn adolygiad. Nid oes gofyniad yn y weithdrefn ffurf fer i’r ACLl gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn-adneuo.

Mae rheoliad 2(10) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl alw am safleoedd ymgeisiol y gellir eu hystyried i’w cynnwys yn y CDLl. Mae’n rhaid i ACLl hefyd gadw cofrestr o safleoedd ymgeisiol i gofnodi’r enwebiadau sy’n dod i law.

Mae rheoliad 2(12) yn mewnosod gofyniad i’r ACLl baratoi adroddiad o’r hysbysiadau a wnaed a’r sylwadau a gyflwynwyd o dan reoliadau 14 i 16. Yr adroddiad a ddiffinnir fel yr “adroddiad ymgynghori cychwynnol” yw hwn.

Mae rheoliad 2(16) yn dileu’r gweithdrefnau yn rheoliadau 20 a 21 o Reoliadau 2005 sy’n ymwneud yn benodol ag ymdrin â sylwadau ynglŷn â dyrannu safleoedd, fel yr ymdrinnir â’r sylwadau hynny yn yr un ffordd ag unrhyw sylwadau eraill.

Mae rheoliad 2(19)(c) yn gwneud darpariaeth bod CDLl a fabwysiadir neu a gymeradwyir yn disodli’r CDLl presennol yn awtomatig.

Mae rheoliad 2(20) yn mewnosod rheoliad newydd 25A yn Rheoliadau 2005 i alluogi’r ACLl i fabwysiadu CDLl diwygiedig naill ai â diwygiadau fel y’u paratowyd neu fel y’u haddaswyd, yn dibynnu ar argymhelliad y person a benodwyd i gynnal yr archwiliad annibynnol o’r adolygiadau arfaethedig.

Mae rheoliad 2(24) yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2005 i ddarparu bod ACLl yn gyfrifol am baratoi arfarniad o gynaliadwyedd y CDLl neu’r adolygiad ohono, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, os yw Gweinidogion Cymru’n rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 2(29) yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i baratoi adroddiad adolygu cyn cynnal unrhyw adolygiad o CDLl. Caiff yr adroddiad hwnnw fod yr adroddiad adolygu llawn sy’n ofynnol o dan adran 69(2) o’r Ddeddf neu’n adroddiad o adolygiad dethol o ran (neu rannau) o’r CDLl. Gwneir mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol gan baragraffau eraill o reoliad 2, gan gynnwys hepgor pob gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i faterion drwy hysbysebu mewn papur newydd lleol.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol ac arbed.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru: www.cymru.gov.uk.

 


2015 Rhif 1598 (Cy. 197)

Cynllunio Gwlad a Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015

 Gwnaed                                    3 Awst 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       7 Awst 2015

Yn dod i rym                             28 Awst 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 62, 63, 69, 77 a 122 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004([1]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 28 Awst 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005([2]);a

(b)     mae unrhyw gyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, oni nodir yn wahanol. 

Diwygio Rheoliadau 2005

2.(1)(1) Diwygir Rheoliadau 2005 fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”);

(b)     yn y diffiniad o “materion adneuo” (“deposit matters”)—

                           (i)    yn is-baragraff (b), yn lle “rheoliad 16(2)(a)”, rhodder “rheoliad 18 neu 26C”; a

                         (ii)    yn is-baragraff (c), yn lle “rheoliad 18”, rhodder “rheoliad 18 neu 26C, yn ôl y digwydd”;

(c)     yn y diffiniad o “adroddiad ymgynghori cychwynnol” (“initial consultation report ”), yn lle “16”, rhodder “ “16A neu reoliad 26A(4), pa un bynnag sy’n ofynnol”;

(d)     yn y diffiniad o “dogfennau CDLl” (“LDP documents”), ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

(d) unrhyw adroddiad adolygu perthnasol;

(dd) unrhyw gofrestr safleoedd ymgeisiol;

(e)     yn y diffiniad o “dogfennau cynigion cyn-adneuo” (“pre-deposit proposals documents”), ar ôl “wedi’u hegluro”, mewnosoder “cofrestr y safleoedd ymgeisiol ac unrhyw adroddiad adolygu,”;

(f)      hepgorer y diffiniadau o “polisi dyrannu safle” (“site allocation policy”) a “sylw ar ddyraniad safle” (“site allocation representation”);

(g)     yn y diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol” (“specific consultation bodies”)—

                           (i)    yn lle “(i) i (viii)”, rhodder “(a) i (e)”; a

                         (ii)    cyn paragraff (c) mewnosoder “(b) Network Rail Infrastructure Limited;”;

(h)     yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, rhodder—

                           (i)    “ystyr “cofrestr y safleoedd ymgeisiol” (“candidate sites register”) yw’r rhestr o safleoedd a baratowyd yn unol â rheoliad 14(4) neu 26A(8);”

                         (ii)    “ystyr “CDLl sydd wrthi'n ymddangos” (“emerging LDP”) yw

(a) dogfen a gynigiwyd fel CDLl a roddwyd ar gael yn unol â rheoliadau 15, 17 neu 22(1);

(b)  dogfen a gynigiwyd fel adolygiad i CDLl a roddwyd ar gael yn unol â rheoliadau 15, 17, 22(1) neu 26B,

nad yw yn y naill achos a’r llall wedi ei fabwysiadu gan yr ACLl o dan adran 67, na’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 neu 71(4);

                       (iii)    “ystyr “adroddiad adolygu” (“review report”) yw adroddiad a baratowyd yn unol ag adran 69 neu reoliad 41(4)([3]).

(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (cwmpas y rheoliadau), rhodder—

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag adolygu CDLl i’r graddau y maent yn gymwys i baratoi CDLl, ac eithrio—

(a)   rheoliadau 5 a 7 nad ydynt yn gymwys i adolygu CDLl;

(b)  pan fo ACLl yn mynd rhagddo yn unol â Rhan 4A, nid yw Rhan 4 yn gymwys heblaw i’r graddau a bennir yn Rhan 4A;

(c)   pan fo ACLl yn cynnig adolygu ei CDLl ac yn mynd ati yn unol â Rhan 4, nid yw Rhan 4A yn gymwys. 

(4) Yn rheoliad 5 (paratoi cynllun cynnwys cymunedau), yn lle “adran 63(3)(a)”, rhodder “adran 63(7)(a)”.

(5) Yn rheoliad 9 (cytundebau cyflawni)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “ac, yn ychwanegol, rhaid iddo- hyd at ddiwedd is-baragraff (b), rhodder a rhaid iddo gael ei gymeradwyo trwy benderfyniad yr ACLl ac yna’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer eu cytundeb”;

(b)     yn lle paragraff (4), rhodder “Hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r cytundeb cyflawni, rhaid i’r ACLl beidio â chymryd unrhyw gamau o dan reoliad 15 na 26A”;

(c)     ar ôl paragraff 9(4), mewnosoder—

(4A) Rhaid i’r ACLl hysbysu—

(a)   y cyrff ymgynghori penodol; a

(b)  y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny a ystyrir yn briodol gan yr ACLl,

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i adolygiad i gytundeb cyflawni gael ei gytuno neu y bernir iddo gael ei gytuno o dan baragraff (3).; a

(d)     ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(6) Nid oes angen i’r ACLl gydymffurfio â gofyniad penodol ei gynllun cynnwys cymunedau os oes ganddo achos rhesymol i gredu nad yw’n debygol o ragfarnu cyfle unrhyw berson i fod yn rhan o roi swyddogaethau’r ACLl ar waith o dan Ran 6 o’r Ddeddf os nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad hwnnw.

(6) Yn rheoliad 10 (argaeledd cytundebau cyflawni), ym mharagraff (2), yn lle “CDLl”, rhodder “ACLl”.

(7) Yn rheoliad 11 (ffurf a chynnwys cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (b)—

(a)     yn is-baragraff (i), hepgorer “a”; a

(b)     yn lle is-baragraff (ii), rhodder—

                     (ii)  dyddiad y daw’r cyfnod y paratowyd y CDLl gan yr ACLl ar ei gyfer i ben; a

                     (iii)  pan fo'n CDLl sydd wrthi’n ymddangos, y cam o'r broses a gyrhaeddwyd a dyddiad ei gyhoeddi.

(8) Yn rheoliad 13 (CDLl: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt), yn lle paragraff (dd), rhodder “unrhyw gynllun morol a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009([4]) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;”

(9) Cyn “RHAN 4 Y WEITHDREFN AR GYFER CYNLLUN DATBLYGU LLEOL”, mewnosoder—

13A. Pan fo ACLl yn cynnig adolygu ei CDLl a phan yr ymddengys iddo nad yw’r materion dan sylw yn ddigon arwyddocaol i gyfiawnhau ymgymryd â’r weithdrefn lawn ar gyfer paratoi fersiwn ddiwygiedig o CDLl fel a bennir yn rheoliadau 14 i 16, caiff fynd ati yn unol â Rhan 4A yn hytrach na Rhan 4.

(10) Yn rheoliad 14—

(a)     ail-rifer y paragraff presennol yn is-baragraff (1); a

(b)     ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—

(2) Cyn bod ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 15, rhaid iddo wneud cais am enwebiadau ar gyfer safleoedd y cynigir eu cynnwys yn y CDLl.

(3) Rhaid i’r ACLl—

(a)   ddatgan y cais am enwebiadau ar ei wefan a thrwy gyfryw ddulliau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol; a

(b)  datgan yn ei gais y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r ACLl fod wedi cael y cyfryw enwebiadau.

(4) Rhaid i’r ACLl baratoi rhestr o’r holl safleoedd a enwebir. 

(5) Rhaid i’r ACLl ystyried unrhyw safleoedd a enwebir cyn penderfynu ar gynnwys CDLl a adneuir yn unol â rheoliad 17.

(11) Yn rheoliad 15 (ymgynghori â’r cyhoedd cyn adneuo)—

(a)     hepgorer “ac” ar ôl paragraff (c)(iv); a

(b)     hepgorer paragraff (ch).

(12) Ar ôl rheoliad 16, mewnosoder—

Adroddiad ymgynghori cychwynnol

16A. Rhaid i’r ACLl baratoi adroddiad y mae’n rhaid iddo ddatgan—

(a)   pa gyrff y mae wedi ymgysylltu neu ymgynghori â hwy neu wedi eu hysbysu yn unol â rheoliadau 14 a 15;

(b)  crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymgysylltiadau, ymgynghoriadau a hysbysiadau hynny, a’r ymatebion;

(c)   mewn perthynas â’r CDLl i’w adneuo yn unol â rheoliad 17—

                       (i)  sut yr aethpwyd i’r afael â’r prif faterion hynny; a

                      (ii)  i ba raddau yr aethpwyd i’r afael â’r ymatebion hynny;

(d) cyfanswm y sylwadau a ddaeth i law yn unol â rheoliad 16; ac

(e) unrhyw wyriad o’r cynllun cynnwys cymunedau.

(13) Yn rheoliad 17 (adneuo cynigion)—

(a)     ym mharagraff (a), yn lle “materion CDLl”, rhodder “materion adneuo”;

(b)      ym mharagraff (c)(vi), hepgorer “a”; ac

(c)     hepgorer paragraff (ch).

(14) Yn lle rheoliad 18 (sylwadau ar gynigion adneuo cynllun datblygu lleol), rhodder—

Caiff person gyflwyno sylwadau am CDLl drwy eu hanfon i’r cyfeiriad ac at y person (os oes un) a bennir yn y materion adneuo, o fewn y cyfnod o 6 wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr ACLl yn cydymffurfio â rheoliadau 17(a) ac (c).

(15) Yn rheoliad 19 (ymdrin â sylwadau: adneuo), hepgorer paragraff (1).

(16) Hepgorer rheoliadau 20 (ymdrin â sylwadau: sylwadau ar ddyraniad safle) a 21 (sylwadau am sylw ar ddyraniad safle).

(17) Yn rheoliad 22 (cyflwyno cynllun datblygu lleol i’r Cynulliad Cenedlaethol)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 18”;

(b)     yn is-baragraff (2)(c)(i) yn lle “rheoliadau 14, 15, 17 ac 20”, rhodder “rheoliadau 14, 15 a 17”;

(c)     ar ddechrau is-baragraff (2)(c)(iii), mewnosoder “mewn cysylltiad â’r prif faterion a godwyd o dan reoliad 16,”;

(d)      yn is-baragraff (2)(c)(iv), yn lle “rheoliadau 16, 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 16 a 18”;

(e)      yn is-baragraffau (2)(c)(v) a (vi), yn lle “rheoliadau 18 a 21”, rhodder “rheoliad 18”;

(f)       ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—

(ca)  unrhyw adroddiad adolygu perthnasol;

(cb) unrhyw gofrestr safleoedd ymgeisiol;;

(g)     ym mharagraff (ch), yn lle “rheoliadau 18 a 21”, rhodder “rheoliad 18”; ac

(h)     hepgorer paragraff (5)(b).

(18) Yn rheoliad 23 (archwiliad annibynnol)—

(a)     ym mharagraff (1), yn lle “cyn dechrau cynnal archwiliad annibynnol o dan adran 64,”, rhodder “cyn dechrau’r gwrandawiad cyntaf o dan adran 64(6),”([5]);

(b)     yn is-baragraff (1)(b), yn lle “neu 21 o’r materion hynny; ac”, rhodder “o’r materion hynny.”;

(c)     hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)     yn is-baragraff (2)(a), yn lle “archwiliad”, rhodder “gwrandawiad”; ac

(e)     ym mharagraff (3), yn lle “rheoliadau 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 18”.

(19) Yn rheoliad 25 (mabwysiadu CDLl)—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “Pan fydd yr ACLl yn mabwysiadu CDLl, rhaid iddo yr un pryd-,” rhodder “Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl fabwysiadu CDLl, rhaid iddo—”;

(b)     hepgorer is-baragraff (2)(c); ac

(c)     ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Pan fydd CDLl yn cael ei fabwysiadu drwy benderfyniad gan yr ACLl neu yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 65 neu 71, mae’n disodli unrhyw CDLl presennol a fydd yn peidio â chael effaith.

(20) Ar ôl rheoliad 25, mewnosoder—

Mabwysiadu adolygiadau i gynllun datblygu lleol

25A.—(1) Caiff yr ACLl fabwysiadu CDLl wedi ei adolygu, ag adolygiadau fel y’i paratowyd yn wreiddiol, os yw’r person a benodir i gynnal yr archwiliad annibynnol o dan adran 64(4) yn argymell hynny.

(2) Caiff yr ACLl fabwysiadu CDLl ag adolygiadau wedi’u haddasu os yw’r person a benodir i gynnal yr archwiliad annibynnol o dan adran 64(4) yn argymell hynny.([6])

(21) Yn rheoliad 26 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl)—

(a)     hepgorer paragraff (b);

(b)     ym mharagraff (ch), hepgorer “, ac 20(2)(a) a (b)”; ac

(c)     ym mharagraff (d), yn lle “rheoliad 18 neu 21”, rhodder “rheoliad 18”.

(22) Ar ôl diwedd Rhan 4, mewnosoder y rhan a ganlyn—

RHAN 4A

Gweithdrefn ffurf fer ar gyfer adolygiadau nad ydynt yn ddigon arwyddocaol

Gofynion cyn-adneuo

26A.—(1) Cyn i’r ACLl gydymffurfio â rheoliad 26B (adneuo adolygiad arfaethedig), at ddiben pennu cwmpas yr adolygiad arfaethedig a chynhyrchu opsiynau eraill, rhaid iddo—

(a)   hysbysu pob un o’r cyrff neu bersonau a bennir ym mharagraff (2) o bwnc yr adolygiad y mae’r ACLl yn cynnig ei baratoi i’r CDLl ac o’r adroddiad adolygu; a

(b)  gwahodd pob un ohonynt i gyflwyno sylwadau i’r ACLl ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn adolygiad.

(2) Y cyrff neu bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)   y cyrff ymgynghori penodol hynny yr ymddengys i’r ACLl bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad arfaethedig; a

(b)  y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny a ystyrir yn briodol gan yr ACLl.

(3) Rhaid i ACLl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) cyn penderfynu’n derfynol ar gynnwys yr adolygiad arfaethedig sydd i’w ddarparu o dan reoliad 26B.

(4) Rhaid i’r ACLl baratoi adroddiad o’r hyn y mae wedi’i wneud yn unol â pharagraff (1).

(5) Mae rheoliad 16A yn gymwys i’r adroddiad hwnnw fel petai—

(a)   cyfeiriadau at reoliadau 14, 15 neu 16 yn cyfeirio at y rheoliad hwn; a

(b)  cyfeiriadau at y CDLl a adneuwyd yn unol â rheoliad 17, yn cyfeirio at yr adolygiad arfaethedig a adneuwyd yn unol â rheoliad 26B.

(6) Cyn i’r ACLl gydymffurfio â rheoliad 26B, os yw’r adolygiad arfaethedig yn cynnwys tir a nodwyd ar gyfer ei ddatblygu, rhaid gwneud cais am enwebiadau ar gyfer safleoedd arfaethedig i’w cynnwys yn y diwygiad arfaethedig.

(7) Rhaid i’r ACLl—

(a) gyhoeddi’r cais am enwebiadau ar ei wefan a thrwy gyfryw ddulliau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol; a

(b) datgan yn ei gais erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r enwebiadau ddod i law’r ACLl.  

(8) Rhaid i’r ACLl baratoi rhestr o’r holl safleoedd a enwebwyd.

(9) Rhaid i’r ACLl ystyried unrhyw safleoedd a enwebir cyn penderfynu ar gynnwys y diwygiad a adneuwyd yn unol â rheoliad 26B.

Adneuo adolygiad arfaethedig

26B. Rhaid i’r ACLl—

(a)   rhoi copïau o ddogfennau’r CDLl, a datganiad o’r materion adneuo, ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn—

                       (i)  ei brif swyddfa; a

                      (ii)  y lleoedd eraill hynny o fewn ei ardal a ystyrir yn briodol gan yr ACLl;

(b)  cyhoeddi ar ei wefan—

                       (i)  dogfennau’r CDLl;

                      (ii)  y materion adneuo; a

                     (iii)  datganiad o’r ffaith bod dogfennau’r CDLl ar gael i’w harchwilio ac o’r mannau lle y gellir eu harchwilio a'r amserau y gellir ei harchwilio; ac

(c)   anfon i bob un o’r cyrff a nodir o dan reoliad 26A(2) gopïau o—

                       (i)  yr adolygiad i’r CDLl sydd wedi ei adneuo;

                      (ii)  yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

                     (iii)  yr adroddiad ymgynghori cychwynnol;

                     (iv)  rhestr o’r dogfennau ategol hynny sydd ym marn yr ACLl yn berthnasol i’r gwaith o baratoi’r adolygiad o’r CDLl;

                      (v)  hysbysiad o’r materion adneuo; a

                     (vi)  y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii).

Sylwadau ar gynigion sydd wedi eu hadneuo o adolygiadau i gynlluniau datblygu lleol

26C. Caiff person wneud sylwadau am adolygiad arfaethedig i CDLl drwy eu hanfon—

(a)           i’r cyfeiriad ac at y person (os oes un) a bennir yn y materion adneuo,

(b)          o fewn y cyfnod o 6 wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y cydymffurfiodd yr ACLl â rheoliadau 26B(a) ac (c).

Ymdrin â sylwadau: adneuo adolygiad

26Ch.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r ACLl dderbyn sylw ynglŷn ag adolygiad arfaethedig i CDLl o dan reoliad 26C, mae’n rhaid iddo—

(a)   rhoi copi o’r sylw ar gael yn y mannau lle y pennwyd bod y dogfennau CDLl ar gael o dan reoliad 26B(a);

(b)  pan fo’n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion yr holl sylwadau a gafwyd, ynghyd â datganiad bod y sylwadau ar gael i’w harchwilio yn y mannau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 26B(a).

(2) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (1) os cyflwynir y sylw ar ôl y cyfnod a bennwyd yn rheoliad 26C.   

Cymhwyso rheoliadau 22 i 26 (Cyflwyno, archwilio annibynnol, cyhoeddi argymhellion, mabwysiadu a thynnu yn ôl)

26D.—(1) Mae rheoliadau 22 i 26 yn gymwys i adolygiad sy’n mynd rhagddo yn unol â’r Rhan hon, yn yr un modd ag y byddent yn gymwys wrth baratoi CDLl, ond maent i gael eu darllen yn unol â’r darpariaethau canlynol.

(2) Mae cyfeiriadau—

(a)   at reoliadau 14, 15 neu 16 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26A;

(b)  at reoliad 17 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26B;

(c)   at reoliad 18 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26C; a

(d)  at y CDLl i gael eu darllen fel cyfeiriadau at adolygiad y CDLl, ac eithrio yn rheoliad 25;

(e)   yn rheoliad 22(2)(c)(i), mae’r cyfeiriad at “wedi ymgynghori â hwy” i gael ei ddarllen fel “wedi eu hysbysu”;

(f)   yn rheoliadau 22(5)(c), 24(2)(a) a 25(2)(a) at y mannau lle y rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at y mannau lle y rhoddwyd dogfennau’r CDLl ar gael o dan reoliad 26B(a); ac

(g)  yn rheoliad 26 —

                       (i)  at reoliad 15(c) i gael eu darllen fel cyfeiriad at reoliad 26A(1); 

                      (ii)  at reoliad 17(a) a (b) i gael eu darllen fel cyfeiriad at reoliad 26B(1)(a) a (b);

                     (iii)  at reoliad 19(2)(a) a (b) i gael eu darllen fel cyfeiriadau at 26Ch(1)(a) a (b).

(23) Yn—

(a)     rheoliad 28 (cyfarwyddyd i beidio â mabwysiadu cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (2)(a);

(b)     rheoliad 29 (Cyfarwyddyd i addasu cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (a);

(c)     rheoliad 31 (Newidiadau a gynigir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynllun datblygu lleol (galw i mewn)) ym mharagraff (2)(a); a

(d)     rheoliad 33 (cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd i gyflawni'r archwiliad annibynnol (galw i mewn)) ym mharagraff (a),

ar ôl “ar gael o dan reoliad 15” ym mhob man y mae’n ymddangos, mewnosoder “neu 26B yn ôl y digwydd”.

(24)  Yn rheoliad 30 (cyfarwyddiadau adran 65(4) (galw i mewn)) yn lle paragraffau (2) i (4), rhodder—

(2) Os rhoddir y cyfarwyddyd cyn i’r ACLl gyflwyno’r CDLl o dan adran 64(1) rhaid i’r ACLl—

(a)   cydymffurfio ag adran 62(6) os nad yw eisoes wedi gwneud hynny;

(b)  sicrhau bod y cyfarwyddyd ar gael i’w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle y rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15 neu lle y rhoddwyd dogfennau’r CDLl ar gael o dan reoliad 26B yn ôl y digwydd;

(c)   cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan;

(ch) yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol ac i baragraff (4), gydymffurfio â’r rheoliadau a enwyd ym mharagraff (3) fel pe bai’n paratoi CDLl.([7])

(3) Y rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(ch) yw rheoliadau 15 i 19, neu 26A i 26Ch, yn ôl y digwydd.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(ch) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl ailadrodd unrhyw gam a gymerwyd cyn cael y cyfarwyddyd. 

(25) Yn rheoliad 31—

(a)     ym mharagraff (2), yn syth ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;

(b)     ym mharagraff (2)(c) hepgorer “a”; ac

(c)     hepgorer is-baragraff (2)(ch).

(26) Yn rheoliadau 33(a) a 34(a), yn lle “dogfennau cynigion cyn-adneuo”, rhodder “cynigion cyn-adneuo”.

(27) Yn rheoliad 34—

(a)     yn is-baragraff (a), ar ôl “ar gael o dan reoliad 15(a)”, mewnosoder “neu reoliad 26B yn ôl y digwydd;

(b)     yn syth ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder “ac”; ac

(c)     hepgorer is-baragraff (c).

(28) Yn rheoliad 39(5)—

(a)     hepgorer “ac;” ar ôl is-baragraff (c); a

(b)     hepgorer paragraff (ch).

(29) Yn lle rheoliad 41, rhodder y canlynol.

“(1) At ddibenion adran 69(1), rhaid i’r ACLl ddechrau adolygiad o’i CDLl ar gyfnodau o ddim hwy na phob pedair blynedd o’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)   dyddiad mabwysiadu’r CDLl cyntaf; neu

(b)  dyddiad mabwysiadu’r CDLl diwethaf yn dilyn adolygiad o dan adran 69(1).

 (2) Cyn iddo baratoi adolygiad o CDLl, rhaid i ACLl adolygu ei CDLl.

(3) At ddibenion paragraff (2), caiff y cyfryw adolygiad fod naill ai yn adolygiad o dan adran 69(1) neu yn adolygiad dethol.

(4) Rhaid i’r ACLl adrodd i Weinidogion Cymru am ganfyddiadau adolygiad dethol.

(5) Rhaid i ACLl gymeradwyo drwy benderfyniad adroddiad ar adolygiad a baratowyd yn unol ag adran 69(1) cyn iddo ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 69(2).

(6) Rhaid i ACLl gymeradwyo drwy benderfyniad adroddiad ar adolygiad dethol a chyflwyno’r adroddiad wedi ei gymeradwyo i Weinidogion Cymru.

(7) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cymeradwyo adroddiad adolygu drwy benderfyniad yr ACLl yn unol â pharagraffau (5) neu (6), rhaid i’r ACLl—

(a)   gyhoeddi’r adroddiad adolygu ar ei wefan; a

(b)  rhoi copïau ar gael yn ei brif swyddfa ac mewn mannau eraill a ystyrir yn briodol gan yr ACLl.

(8) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “adolygiad dethol” yw adolygiad o ran neu rannau o CDLl.([8])

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

3.(1)(1) Os yw ACLl wedi cael sylw am ddyraniad safle o dan reoliad 18 o Reoliadau 2005 ond nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw ran o reoliad 20 o Reoliadau 2005 (ymdrin â sylwadau: sylwadau ar ddyraniad safle) cyn 28 Awst 2015, mae rheoliad 19(2) o Reoliadau 2005 yn gymwys i’r sylwadau hynny ar ddyraniad safle.

(2) Os yw ACLl wedi cydymffurfio ag unrhyw ran o reoliad 20 o Reoliadau 2005 (ymdrin â sylwadau: sylwadau ar ddyraniad safle) cyn 28 Awst 2015, mewn perthynas â pharatoi neu adolygu CDLl, nid yw’r diwygiad a wnaed gan reoliad 2(16) (dileu cam sylwadau ar ddyraniad safle) yn gymwys i’r gwaith o baratoi'r CDLl hwnnw a rhaid i’r ACLl gydymffurfio â rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau 2005.

(3) Os yw ACLl wedi cydymffurfio â rheoliad 14 o Reoliadau 2005 (ymgynghori â’r cyhoedd cyn-adneuo) cyn 28 Awst 2015, mewn perthynas â pharatoi neu adolygu CDLl, caiff benderfynu mynd ati o dan Ran 4A o Reoliadau 2005 a chaiff hepgor y camau sy’n ofynnol yn ôl rheoliad 26A(1) a (2).

(4) Os yw ACLl yn penderfynu mynd ati yn unol â pharagraff (3)

(a)     mae rheoliad 26A(3) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at sylwadau a gyflwynwyd yn unol â pharagraff 1, yn cyfeirio at sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i gamau a gymerwyd o dan reoliad 14; a

(b)   mae rheoliad 26A(4) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at sylwadau a gyflwynwyd o dan reoliad 26A yn cyfeirio at sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i gamau a gymerwyd o dan reoliad 14.

(5) Os bydd yr ACLl, cyn cychwyn y Rheoliadau hyn, wedi cyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adolygiad arfaethedig i’w CDLl—

(a)     ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion rheoliad 41(5) a (6) o Reoliadau 2005; a

(b)     os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, mae’n rhaid iddo gydymffurfio â rheoliad 41(7) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, fel pe bai’r adroddiad adolygu wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad yr ACLl yn unol â pharagraff (5) neu (6) o reoliad 41 o Reoliadau 2005.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

3 Awst 2015



([1])           2004 p.5; rhoddwyd adran 62(5)(d) yn lle paragraffau (d) ac (e) gan adran 51(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 2 i’r Mesur hwnnw; rhoddwyd adran 51(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 2 i’r Mesur hwnnw yn lle adran 62(7).

([2])           O.S. 2005/2839 (Cy. 203), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/971 (Cy. 141) ac O.S. 2013/755 (Cy. 90).

([3])           Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).

([4])           p. 23

([5])           Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).

([6])           Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).

([7])           Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).

([8])           Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).